Bydd angen i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf fforddiadwy a bennwyd gan Domus Cambria cyn prynu un o'n fflatiau.
Cafodd fflatiau Hafan Gogarth eu cynllunio i ddeiliaid cartref ac ni ellir eu his-osod neu eu llogi i eraill fel fflatiau gwyliau.
Gall Domus Cambria neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynnal adolygiad o'r Meini Prawf Cymhwyso, a bydd unrhyw newidiadau yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth gan y ddau sefydliad.
| Categori | Blaenoriaeth 1 | Blaenoriaeth 2 | Blaenoriaeth 3 | |
| 1. Dros 60 oed, yn byw yn wardiau Gogarth, Tudno neu Fostyn Llandudno, ac ni ellir diwallu eu hangen tai ar y farchnad agored. | Yn byw yno ers mwy na 10 mlynedd | Yn byw yno rhwng 5-10 o flynyddoedd | Yn byw yno am lai na 5 mlynedd | Bydd yr Uned Tai Fforddiadwy yn cael ei marchnata’n weithredol am gyfnod o 6 wythnos o leiaf cyn y gellir ystyried ceisiadau o Gategori 3 a 4. |
| 2. 55 oed a hŷn, yn byw yn wardiau Gogarth, Tudno neu Fostyn Llandudno ac ni ellir diwallu eu hangen tai ar y farchnad agored. | Yn byw yno ers mwy na 10 mlynedd | Yn byw yno rhwng 5-10 o flynyddoedd | Yn byw yno am lai na 5 mlynedd | |
| 3. Dros 60 oed, yn byw yn Sir Conwy ac ni ellir diwallu eu hangen tai ar y farchnad agored. | Yn byw yno ers mwy na 10 mlynedd | Yn byw yno rhwng 5-10 o flynyddoedd | Yn byw yno am lai na 5 mlynedd | Bydd yr Uned Tai Fforddiadwy yn cael ei marchnata’n weithredol am gyfnod o 6 wythnos o leiaf cyn y gellir ystyried ceisiadau o Gategori 5a 6 |
| 4. 55 oed a hŷn, yn byw yn Sir Conwy ac ni ellir diwallu eu hangen tai ar y farchnad agored. | Yn byw yno ers mwy na 10 mlynedd | Yn byw yno rhwng 5-10 o flynyddoedd | Yn byw yno am lai na 5 mlynedd | |
| 5. Dros 60 oed ac yn byw yn Awdurdod Lleol Gogledd Cymru (Gwynedd, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Wrecsam a Sir y Fflint). | Yn byw yno ers mwy na 10 mlynedd | Yn byw yno rhwng 5-10 o flynyddoedd | Yn byw yno am lai na 5 mlynedd | Bydd yr Uned Tai Fforddiadwy yn cael ei marchnata’n weithredol am gyfnod o 6 wythnos o leiaf cyn y gellir ystyried ceisiadau o Gategori 7. |
| 6. 55 oed a hŷn ac yn byw yn Awdurdod Lleol Gogledd Cymru (Gwynedd, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Wrecsam a Sir y Fflint) | Yn byw yno ers mwy na 10 mlynedd | Yn byw yno rhwng 5-10 o flynyddoedd | Yn byw yno am lai na 5 mlynedd | |
| 7. 55 oed a hŷn ac ni ellir diwallu eu hangen tai ar y farchnad agored. | Dd/G | Dd/G | Dd/G | Dd/G |